low quality image

Elfyn Lewis | Anochel - 05.02.2022 | 19.03.2022 - TEN.

Shows • 23rd Jul, 22
Gwybodaeth - newyddion | Information - news

Elfyn Lewis | Anochel - 05.02.2022 | 19.03.2022 - TEN.

Anochel • Inevitable  
Pleser yw cyhoeddu arddangosfa undyn Elfyn Lewis gyda TEN – y 5ed rydym wedi ei chynnal gyda’n gilydd. Roedd amseru ei arddangosfa blaenorol yn anodd iawn – agorwyd hi ychydig ddyddiau cyn lockdown 1 yn 2020. Ond, nid yn unig rydym wedi dod drwyddi ond mae hefyd ddatblygiad pwysig yng ngwaith cyfarwydd Lewis – sef ‘dal’ llif y paent. Mae’r paent - sydd cymaint rhan o’r gelf, ac yn elfen nodedig o’r gwaith - yn awr fel petai wedi’i rewi yn y fan. Daw’r haenau hynny yn fwy amlwg fyth wrth gronni yn byllau ar ymylon yr arwynebedd, wedi’u dal gan bren wedi’i dorri a laser. Dyma rhan o broses Lewis sef yr hyn oedd yn cael ei adael ar ol ar fwrdd y stiwdio – y gorlifo hwnnw nawr yn rhan allweddol o’r gwaith ac yn teneuo ymhellach y ffin rhwng cerflun a paentiad
 
Anochel yn wir oedd y byddai Lewis yn llwyddo datrys y mater a datgloi drws arall yn ei yrfa artistig  - a hynny tra bod y byd dan glo           - Cat Gardiner, cyfarwyddwr TEN
 
 
 
Mae dwy flynedd wedi mynd heibio ers fy sioe unigol ddiwethaf yn TEN yn 2020; ac mae popeth wedi newid, ond does dim wedi newid. Gan fy mod wedi cael mwy o amser i ganolbwyntio ar y ‘pam’ a’r ‘sut’, mae fy ngwaith wedi datblygu mewn sawl cyfeiriad. Ac er efallai y byddwn wedi cyrraedd yr un pwynt dan amodau arferol, byddai taith y datblygiad hwnnw wedi bod yn dipyn hirach. Nawr, mae’r paent yn gorlifo a throelli’i ffordd i ymylon y gwaith, gan greu pyllau o liw - fel afonydd sy’n ffeindio’u ffordd i’r môr mewn tirlun sy’n datblygu drwy amser. Camau bach yw’r rhain, camau sy’n cymryd amser – gwneud ac ail-wneud, dro ar ôl tro - dyma yw fy mhroses
 
Mae’r iaith Gymraeg yn rhan greiddiol o’m gwaith. Dw i’n enwi pob darn i adlewyrchu teimlad, gair penodol neu enw lle yng Nghymru. Mae hyn yn bwysig i fi – yn enwedig wrth weld cymaint o enwau Cymraeg yn diflannu am byth. Dw i’n gweld hen ffyrdd yn diflannu, a gwlad fach â chymaint o hanes yn colli nabod arni ei hun a cholli golwg ar ei dyfodol. Ond mae’r gwaith yma’n edrych yn ôl er mwyn edrych ymlaen, a darganfod llwybrau newydd. Drwy fy ngwaith, dw i’n tystio. Mae’n fy nghynrychioli i, a’r lle y ces fy magu – yn Gymro Cymraeg sy’n ffeindio ei lais drwy iaith ryngwladol   - Elfyn Lewis

 

It’s a pleasure to announce Elfyn Lewis’s solo exhibition at TEN – his 5th that we’ve presented together. The timing of his last show was difficult – we launched only a few days before the first lockdown of 2020. But we’ve emerged two years later with an important development in Lewis’s recognisable work – the ‘capturing’ of the flowing paint. This paint - that is so central and characteristic of his work – now pools at the edges. The layers of paint become amplified further as they collect over the edges supported by laser-cut plywood, further blurring the lines between sculpture and painting. Here we see part of Lewis’s process which was left on the studio table – that overflow has become an integral part of his paintings
 
It was ‘Inevitable’ indeed that Lewis resolved this matter and unlocked another avenue in his career while the world was in lockdown       - Cat Gardiner, TEN gallery director
 


Two years have passed since my last solo exhibition at TEN in 2020; and everything has changed, yet nothing has changed. My work has developed in many directions due to the enforced extra time awarded to the concentration on the ‘why’ and ‘how’. I might well have reached the same point in my practice under normal circumstances, yet the journey of these developments might have taken a fair while longer. Now, the paint spills and overflows over the edges of the work, pooling in colours - like rivers making their way to the sea in an ever-changing landscape. These are little steps, steps which take time - the making and re-making over and over - this is my process
 
The Welsh language is at the core of my work. I name each painting to reflect a feeling, a particular word or a place names in Wales. This is important to me - especially when seeing the disappearance of so many Welsh names, lost forever. I see old ways