low quality image

Elfyn Lewis - Cân i Gymry // &Gallery 02.09.2023 - 30.09.2023

Upcoming • 24th Sep, 23
Gwybodaeth - newyddion | Information - news

Elfyn Lewis :: Cân i Gymry 
02.09.2023 :: 30.09.2023

&Gallery 
3 Dundas Street 
Edinburgh EH3 6QG
info@andgallery.co.uk
www.andgallery.co.uk
+44 (0) 131 467 0618

Teitl y sioe hon yw ‘Cân i Gymry’, sy’n un o’r traciau ar albwm 'Libertino' gan y band Datblygu. Cân am ddiwylliant a gwleidyddiaeth Cymru yw ‘Cân i Gymry’, yn llawn sylwadau craff am feddylfryd y Cymry. Dw i wastad wedi cael fy ysbrydoli gan fandiau fel Datblygu, a dw i’n defnyddio geiriau a theitlau caneuon ar gyfer fy mhaentiadau yn aml. Mae cerddoriaeth a chelf wastad wedi mynd law yn llaw i mi.
Cefais fy magu ym Mhorthmadog, ddrws neu ddau i lawr o siop 'Cob Records' - yn fy ieuenctid dyma oedd fy llyfrgell gerddoriaeth ac oriel gelf. Byddai pob ymweliad â'r ‘Cob’ yn fy nghario i rywle arall wrth i mi wrando ar LPs a phori dros y cloriau. Cafodd y profiadau cynnar hynny ddylanwad aruthrol arna i ac ar fy mheintio. Fel myfyriwr yn Lloegr yn ail hanner yr 80au, roedd gwrando ar fandiau Cymraeg yn fy nghysylltu â fy iaith a fy hanes.
Weithiau, mae bod yn beintiwr yn gallu bod yn fodolaeth unig ac felly mae'r gerddoriaeth rwy'n ei chwarae yn fy stiwdio yn llenwi'r gwagle a chreu amgylchedd gweithio bywiog. Rwy’n cyflwyno’r gweithiau hyn i gerddorion, ffrindiau ac aelodau teulu sydd wedi ein helpu i gredu ynom ein hunain a’r hyn y gallwn ni, fel gwlad, Cymru, fod.
Parch.

This show is entitled 'Cân i Gymry,' a track from the album 'Libertino' by Welsh band, Datblygu. Cân i Gymry is a song about Welsh culture and politics, with sharp observations about the Welsh mindset. I've always been inspired by bands such as Datblygu, and I’ve often used the lyrics and titles of songs in my paintings. Music and art go hand in hand for me.
I grew up in Porthmadog, just a few doors down from the iconc record shop 'Cob Records’. The shop was my music library and art gallery. Visits to ‘Cob' would transport me somewhere else. I'd listen to LPs and pore over the record covers. These early experiences had a huge influence on me and my painting. As a student in England in the mid to late 80’s, listening to Welsh-language bands connected me with my language and history. 
Being a painter can be a solitary existence, so the music I play in my studio fills this void and creates a lively work environment. These works are dedicated to musicians, friends and family, who’ve helped us believe in ourselves and what we, as a country, Cymru, can be.
Parch.